Search

WWRPB News and Events

Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn ceisio barn i wella llesiant lleol

Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro yn gofyn am farn trigolion i ddarganfod beth sy’n bwysig iddyn nhw a’u cymunedau lleol.

Bydd y canlyniadau sy’n cael eu casglu yn helpu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i ddeall y ffactorau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol sy’n effeithio ar lesiant unigolion a chymunedau o fewn y tair sir.

Bydd yr ymatebion i’r arolwg llesiant rhanbarthol yn cael eu dadansoddi a byddan nhw’n cyfrannu at Gyd-Gynllun Llesiant Ceredigion/Sir Gâr 2028-2033. Bydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro hefyd yn cyhoeddi ei gynllun lleol.

Bydd y cynllun llesiant drafft yn ceisio gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ein siroedd.

Er mwyn helpu i lunio dyfodol llesiant, cwblhewch yr arolwg ar-lein erbyn 8 Awst 2026.