Search

Asesiad Poblogaeth

Plant a phobl ifanc

Wedi'i Ddiweddaru Yn ddiweddar: Medi 2026
Trosolwg a negeseuon allweddol

Ar draws siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, a elwir gyda’i gilydd yn rhanbarth Hywel Dda canolbarth a gorllewin Cymru, ceir mwy na 100,000 o bobl dan 25 oed, sy’n cynrychioli tua 25% o’r boblogaeth.

Amcangyfrifir bod 6,105 o blant a phobl ifanc yn y rhanbarth yn byw gyda chyflwr neu anabledd hirdymor.

Yn ôl ystadegau canol blwyddyn gan StatsCymru (2023), mae 49% o blant a phobl ifanc yr ardal yn byw yn Sir Gaerfyrddin, 30% ohonynt yn Sir Benfro a 21% yng Ngheredigion.

Darllenwch fwy drwy’r ddolen yma: Amcangyfrifon o’r boblogaeth yn ôl awdurdod lleol a blwyddyn

Er y disgwylir i’r boblogaeth o blant a phobl ifanc hyd at 25 oed aros yn gymharol sefydlog, disgwylir i nifer y plant 3-15 oed yn y rhanbarth ostwng 8% erbyn 2031.

Y sgôr 9 pwynt wedi’i chapio (9 canlyniad gorau disgyblion Blwyddyn 11 o gymwysterau sydd ar gael yng Nghymru) yw 361.7, sy’n uwch na chyfartaledd Cymru o 353.8.

Mae nifer y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Ngorllewin Cymru ychydig yn is na chyfartaledd Cymru, ar 14%.

Ar gyfer polisïau a gwasanaethau, ystyrir plant a phobl ifanc o dan y pum grŵp canlynol:

  • Y 1000 diwrnod cyntaf: O genhedlu hyd at 2 oed.
  • 2 hyd at dan 12:
  • 12 hyd at dan 18: Dyma’r diffiniad safonol o berson ifanc mewn llawer o gyd-destunau cyfreithiol a chymdeithasol, er y gall gwasanaethau penodol ddiffinio hyn yn wahanol.
  • 18 hyd at dan 21 oed (os yw’n derbyn gofal): Mae’r estyniad hwn yn bwynt polisi allweddol i bobl ifanc mewn gofal, gan roi cefnogaeth barhaus iddynt wrth symud ymlaen i fyw fel oedolyn.
  • 21 hyd at dan 25 (os yw’n derbyn gofal ac mewn addysg): Mae’r categori hwn yn rhoi hyd yn oed mwy o gymorth i rai sy’n gadael gofal ac yn canlyn addysg bellach, gan gydnabod y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt er mwyn llwyddo.

Mae tlodi plant yn destun pryder sylweddol yng Ngorllewin Cymru, lle mae’r cyfraddau’n gyson uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol. Yn seiliedig ar ddata diweddar (2022/23) gan y gynghrair Dileu Tlodi Plant, dyma ganran y plant sy’n byw mewn tlodi cymharol (ar ôl costau tai) ym mhob sir:

  • Sir Benfro: 23.7%
  • Ceredigion: 25.4%
  • Sir Gaerfyrddin: 25.0%

Ceir rhagor o wybodaeth drwy ddilyn y ddolen hon: Ystadegau Tlodi Plant 2024 – Dileu Tlodi Plant

Demograffeg a Thueddiadau

Ar hyn o bryd, rhagamcennir y bydd gan bob un o’r tri awdurdod lleol yng Ngorllewin Cymru ganran is o bobl ifanc na’r cyfartaledd cenedlaethol. Mae amcanestyniadau ar gyfer 2043 yn dangos y bydd pobl ifanc 0-15 oed i gyfrif am 16.54% o’r boblogaeth genedlaethol, ond na fyddant ond i gyfrif am 16.22% o’r boblogaeth yn Sir Gaerfyrddin, 14.67% o’r boblogaeth yn Sir Benfro, ac 13.64% o’r boblogaeth yng Ngheredigion.

Ceir rhagor o wybodaeth drwy ddilyn y ddolen hon: Amcanestyniadau o’r boblogaeth yn ôl awdurdod lleol a blwyddyn

Yn 2025 amcangyfrifwyd bod gan 6,105 o blant a phobl ifanc salwch/anabledd hirdymor – 3,116 yn Sir Gaerfyrddin, 1,945 yn Sir Benfro, a 994 yng Ngheredigion. Mae amcanestyniadau ar gyfer 2043 yn dangos gostyngiad i 5,652, gyda 2,986 yn Sir Gaerfyrddin, 1,784 yn Sir Benfro, ac 882 yng Ngheredigion.

Plant sy’n Derbyn Gofal (PDG) 0 i 17 oed fesul 100,000

O ran nifer y Plant sy’n Derbyn Gofal (PDG) yn y rhanbarth, mae’r data wedi newid ers pandemig COVID-19.

Ceir rhagor o wybodaeth am yr ystadegau PDG drwy ddilyn y ddolen hon: Plant sy’n derbyn gofal ar 31 Mawrth yn ôl awdurdod lleol, rhyw ac oedran

Hynt Bywyd Poblogaeth Hywel Dda (0 – 24 oed) 2023 – 24

Mae Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, 2023-24 yn cynnwys gwybodaeth bellach am iechyd a lles plant a phobl ifanc yn Hywel Dda, yn y presennol a’r dyfodol. Gellir gweld yr adroddiad llawn yma: Adroddiadau blynyddol iechyd cyhoeddus – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac mae’n cynnwys y diagram a’r data isod:

•	13% of mothers smoking at initial antenatal appointment,
•	30% of pregnant women have a BMI 30+ at initial antenatal assessment,
•	84% % of resident children in the region aged 4 are up to date with all scheduled vaccines,
•	18% primary school children in the region are eligible for free school meals,
•	12% of children in the region and living in workless households,
•	23% of children in the region live in low income households,
•	29% of children in the region aged 4-5yrs are overweight or obese,
•	17% of adolescents in region report using e-cigarettes/vaping,
•	39% of adolescents in the region report using alcohol,
•	Over 400 elective home educated children in the region,
•	91% average school attendance of primary aged children in the region (95% pre-pandemic),
•	Children from poorer families in the region often experience worse mental health, bullying, and lower outcomes on healthy eating and physical activity (Primary School Student Health and Wellbeing Survey 2022/23),
•	Older children in the region  also report lower life satisfaction and higher levels of social media use (ref above),
•	At primary school 46% of children in the region reported they had been bullied at school over the past couple of months (and 28% of Year 6 children had been cyber bullied),
•	87% average school attendance of secondary aged children in the region (95% pre-pandemic),
•	While the majority of young people in the region report reasonable or high mental wellbeing, the proportions reporting low mental wellbeing has increased from around one in six in 2017 to one in to five in 2023, despite recent improvements in mental wellbeing reported between 2021 and 2023,
•	There has been a notable increase in adolescent girls and young women, who are receiving antidepressants, engaging with support services, and experiencing mental health crises in the region. Conversely, young men are less likely to present for mental health issues in primary care and are at significantly higher risk of suicide in early adulthood,
•	Adolescents and young adults in the 20% most deprived areas of the region face nearly double the rate of mental health crisis events compared with those in the least deprived 20% areas, 
•	18.6% of adults (+16yrs) in the region have no qualifications
Anghenion gofal a chymorth

Mae gan blant a phobl ifanc amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth yn dibynnu ar eu hamgylchiadau personol. Yn fras, bydd yr ystod hon yn cwmpasu:

  • Anghenion cyffredinol – er enghraifft, gwybodaeth a chyngor, cymorth lefel isel i deuluoedd, gwasanaethau ataliol fel ymweliadau iechyd, darpariaeth gynenedigol gynnar, cymorth a chyngor dietegol, gofal plant a chyngor gyrfaoedd
  • Anghenion ychwanegol ac ymyrraeth gynnar – fel cymorth gwella i deuluoedd, ymgysylltu â phobl ifanc, cefnogi pobl ifanc i mewn i fyd addysg a hyfforddiant, lles a chynhwysiant mewn addysg
  • Anghenion lluosog lle mae angen cefnogaeth aml-asiantaeth gydlynol er mwyn helpu plant a theuluoedd i fynd i’r afael ag anghenion cymhleth ac/neu hirsefydlog
  • Angen am ymyrraeth adferol i gefnogi plant sydd mewn perygl.
Effaith y pandemig COVID-19

Mae pandemig COVID-19 wedi cael cryn effaith ar les plant a phobl ifanc ar draws y rhanbarth.

Llesiant a Iechyd Meddwl

Mae’r pwysau ar lesiant yn parhau i fod yn uchel, yn enwedig o ran iechyd meddwl a’r blynyddoedd cynnar, ac mae gwasanaethau’n dal i geisio dal i fyny drwy ymdrin â’r achosion a oedd wedi ôl-gronni oherwydd y pandemig. Cafwyd amseroedd aros hir am CAMHS yn Hywel Dda: yn 2023, yr amser aros hiraf am apwyntiad dilynol oedd 99 wythnos yn ardal Hywel Dda, yn ôl adroddiad ITV Wales a oedd yn seiliedig ar gais rhyddid gwybodaeth (Mai 2024).

Dengys tystiolaeth ehangach yng Nghymru fod anghenion a’r galw am wasanaethau iechyd meddwl plant wedi codi yn dilyn COVID, gydag amseroedd aros pediatrig a therapi yn cyrraedd uchafbwynt yn 2020, cyn gwella, ond parhau’n uwch na llinellau sylfaen o’r gorffennol.

Darllenwch fwy drwy’r ddolen yma: Crynodeb o Weithgarwch a Pherfformiad y GIG: Rhagfyr 2024 a Ionawr 2025 [HTML] | LLYW.CYMRU

Presenoldeb yn yr Ysgol

Nid yw cyfraddau presenoldeb yn yr ysgol wedi dychwelyd yn llawn i’r lefelau cyn y pandemig.

Mae adroddiadau awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin (2023/24) a Cheredigion (2024), y naill a’r llall, yn nodi bod presenoldeb wedi gwella ers y pandemig ond yn dal i fod yn is na’r cyfnod cyn COVID, yn unol â data cenedlaethol ar gyfer 2023–24. Gwelir yr un sefyllfa yn hunanasesiad 2025 Sir Benfro. (Mae gorbryder a salwch ymhlith y ffactorau y cyfeirir atynt yn gyffredin ledled Cymru.)

Gallwch ddarllen mwy am bresenoldeb yn ysgolion Sir Gaerfyrddin yn yr adroddiad yma: Adroddiad Blynyddol 2024 (Tud 27)

Gallwch ddarllen mwy am bresenoldeb yn ysgolion Ceredigion yn yr adroddiad yma Adroddiad arolygu Cyngor Sir Ceredigion 2024 (Tud 6)

Gallwch ddarllen mwy am bresenoldeb yn ysgolion Sir Benfro yn yr adroddiad yma: SA1 – Amcanion Llesiant (parhad) – Cyngor Sir Penfro

Yn genedlaethol yng Nghymru, gwelwyd tueddiadau cadarnhaol o ran gweithgarwch corfforol ymhlith disgyblion ysgol uwchradd, gan godi i lefelau tebyg i weithgarwch cyn y pandemig, a gwrthdroi gostyngiad a welwyd ers 2017. Fodd bynnag, mae anghydraddoldebau sylweddol yn parhau: dim ond 23% o fechgyn ac 14% o ferched oedd yn bodloni canllaw’r Prif Swyddog Meddygol o wneud isafswm o 60 munud o weithgarwch corfforol bob dydd.

Darpariaeth gofal a chymorth bresennol

Bydd gan blant a phobl ifanc amrywiaeth o anghenion gofal a chymorth yn dibynnu ar eu hamgylchiadau personol. Yn fras, bydd yr ystod hon yn cwmpasu:

  • Anghenion cyffredinol – er enghraifft, gwybodaeth a chyngor, cymorth lefel isel i deuluoedd, gwasanaethau ataliol fel ymweliadau iechyd, darpariaeth gynenedigol gynnar, cymorth a chyngor dietetig, gofal plant a chyngor gyrfaoedd
  • Anghenion ychwanegol ac ymyrraeth gynnar – fel cymorth gwella i deuluoedd, ymgysylltu â phobl ifanc, cefnogi pobl ifanc i gael addysg a hyfforddiant, cynhwysiant addysg a lles
  • Anghenion lluosog sy’n gofyn am gymorth amlasiantaethol cydgysylltiedig i gefnogi plant a theuluoedd i fynd i’r afael ag anghenion cymhleth a/neu sydd wedi gwreiddio
  • Angen ymyrraeth unioni i gefnogi plant sydd mewn perygl
Bylchau a meysydd i'w gwella

Gellir gwneud amryw o welliannau pellach. Nodir y rhain isod yn erbyn egwyddorion creiddiol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014:

Llais a rheolaeth

Gwella prosesau asesu a chynllunio gofal i sicrhau bod gan blant, pobl ifanc a’u teuluoedd lais ynghylch yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw a’r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw.

Cyd-gynhyrchu

Gwella cyfleoedd i ymgysylltu â phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd i sicrhau bod eu llais yn cael gwrandawiad a bod gwasanaethau’n cael eu cynllunio gyda nhw mewn golwg.

Atal ac ymyrraeth gynnar

Parhau i gryfhau’r ffocws ar atal ar draws yr ystod o wasanaethau, er mwyn meithrin gwydnwch plant, pobl ifanc a theuluoedd, lleihau dibyniaeth ar wasanaethau statudol a hwyluso dad-ddwysáu o gymorth dwys lle bo’n briodol.

Llesiant

Lleihau’r nifer o weithiau y bydd plant sy’n derbyn gofal (PDG) gan awdurdodau lleol yn symud o’r naill leoliad i’r llall, a lleihau’r ddibyniaeth ar ofal preswyl

Gwella mynediad cynnar at wasanaethau iechyd meddwl, gan atal yr angen i atgyfeirio i’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) yn sgil hynny. Gwella cynllunio ar y cyd rhwng CAMHS a gwasanaethau anableddau dysgu i sicrhau darpariaeth gwasanaeth deg i blant â chyflyrau niwroddatblygiadol.

Cydweithrediad, partneriaeth ac integreiddio

Datblygu methodoleg gyson fel Model Adfer wedi Trawma i ategu gofal a chymorth ar draws y rhanbarth

Datblygu fframwaith perfformiad cyson, sy’n seiliedig ar ganlyniadau, ar gyfer gwasanaethau plant a phobl ifanc ar draws y rhanbarth

Datblygu cysylltiadau rhwng Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd (IFSS) a gwasanaethau eraill y Cyngor, fel gofal oedolion a thai, yn ogystal â gwasanaethau cymunedol, er mwyn helpu teuluoedd i ddychwelyd i fod yn annibynnol a’u galluogi i weithredu’n effeithiol o fewn eu cymunedau.

Ailgyflunio’r prosesau ar gyfer comisiynu pecynnau gofal a chymorth cost uchel, nifer isel, i blant ag anghenion cymhleth er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau a gwneud defnydd mwy effeithlon o arian.

Datblygu dull system gyfan o gefnogi iechyd meddwl a lles emosiynol plant a phobl ifanc, fel gweithredu fframwaith NYTH a’r dull Ysgol Gyfan

Dylid manteisio ar gyfleoedd i symud y meysydd hyn ymlaen mewn partneriaeth ar draws y rhanbarth, a thrwy hynny sicrhau cysondeb y ddarpariaeth a galluogi dull ‘unwaith i Orllewin Cymru’ lle bynnag y bo modd.