Search

WWRPB ⎸ News and Events

Cyfle i chi ddweud eich dweud am ddyfodol Gwasanaethau Eiriolaeth yng Ngorllewin Cymru

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru yn gweithio gyda
phartneriaid i adnewyddu Strategaeth Eiriolaeth Gorllewin Cymru, sy’n nodi’r
weledigaeth a’r blaenoriaethau a rennir ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth ledled Sir
Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Rydyn ni’n gofyn am farn pobl sy’n defnyddio gwasanaethau eiriolaeth, aelodau
o’r teulu a gofalwyr, gweithwyr proffesiynol, darparwyr, sefydliadau partner ac
unrhyw un sydd â diddordeb mewn eiriolaeth.

Mae’r arolwg yn gofyn am:
1. Y blaenoriaethau arfaethedig ar gyfer y strategaeth nesaf
2. Profiadau presennol o wasanaethau eiriolaeth
3. Cyfleoedd yn y dyfodol, heriau a meysydd lle mae angen

Mae’r arolwg yn cymryd oddeutu 10-15 munud i’w gwblhau.

Gallwch gymryd rhan yma: arolwg ar-lein 

Dyddiad cau: 11 Hydref 2026

Helpwch ni i gyrraedd cymaint o bobl â phosibl drwy rannu’r arolwg gyda’ch
cydweithwyr, rhwydweithiau, defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a chymunedau.