Search

WWRPB ⎸ Ysgogi Newid

Mewnwelediadau Data Gorllewin Cymru

Bwrw golwg ar yr asesiadau, y data, yr adroddiadau a’r cynlluniau allweddol sy’n helpu i lunio gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Pa ddata rydyn ni'n ei gasglu?

Rydyn ni'n casglu a dadansoddi gwybodaeth am bobl a chymunedau Gorllewin Cymru, ochr yn ochr â gwybodaeth am wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a chymorth. Mae hyn yn cynnwys tueddiadau poblogaeth, anghenion gofal a chymorth presennol a'r dyfodol, adborth gan bobl sy'n defnyddio gwasanaethau, a gwybodaeth am argaeledd a chynaliadwyedd darparwyr gofal.

Pam rydyn ni'n casglu data?

Mae data yn ein helpu i ddeall anghenion pobl sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, heddiw ac yn y dyfodol. Rydyn ni'n defnyddio'r wybodaeth hon i nodi heriau sy'n dod i'r amlwg, asesu a yw gwasanaethau yn bodloni'r galw, a sicrhau bod adnoddau yn cael eu targedu lle mae eu hangen fwyaf. Trwy ein Hasesiad o Anghenion Poblogaeth (PNA) ac Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad (MSR), rydyn ni'n creu darlun clir o anghenion lleol, disgwyliadau a chapasiti'r gwasanaeth ar draws y rhanbarth.

Sut ydyn ni'n defnyddio data?

Mae'r wybodaeth rydyn ni'n ei chasglu o'n hasesiadau yn helpu i lywio sut mae gwasanaethau iechyd, gofal a llesiant yn cael eu cynllunio a'u darparu ledled Gorllewin Cymru. Mae'r canfyddiadau o'r Adroddiad Asesiad o Anghenion Poblogaeth ac Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad yn llywio ein Cynllun Ardal Ranbarthol, sy'n nodi ein blaenoriaethau a'n gweithredoedd. Mae'r rhain wedyn yn cefnogi strategaethau comisiynu, datblygu gwasanaethau a chydweithio rhwng partneriaid i wella canlyniadau i bobl a chymunedau ledled y rhanbarth.

Asesiad o anghenion poblogaeth (PNA)

Deall anghenion gofal a chymorth presennol a dyfodol pobl ledled Gorllewin Cymru drwy ymchwil a data. Cliciwch ar y dolenni isod i fynd â chi at wybodaeth am y gwahanol grwpiau poblogaeth:

Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad (MSR)

Deall cynaliadwyedd, gallu a gwytnwch gwasanaethau gofal a chymorth ledled y rhanbarth.

Archwilio:

  • Gweithlu
  • Gofal Cartref
  • Cartrefi Gofal
  • Byw â chymorth
  • Dadansoddiad o’r Farchnad
  • Blaenoriaethau Rhanbarthol

 

→ Bwrw golwg ar Adroddiad Sefydlogrwydd y Farchnad

 

Cynllun Ardal

Ein hymateb i’r anghenion a’r blaenoriaethau a nodwyd ledled Gorllewin Cymru, gan nodi ein huchelgeisiau a’n gweithredoedd rhanbarthol.

Bwrw golwg ar:

  • Blaenoriaethau Strategol
  • Rhaglenni Gwaith
  • Cynnydd a Chyflawni
  • Mentrau Partneriaeth

 

→ Bwrw golwg ar y Cynllun Ardal

 

Ymgysylltu Parhaus

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru (BPRhGC) a’i bartneriaid wedi ymrwymo i wrando ar y bobl a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu a dysgu ganddynt. Mae gweithgareddau ymgysylltu sy’n cael eu cynnal ledled y rhanbarth yn helpu i gasglu profiadau, safbwyntiau a blaenoriaethau gan unigolion, gofalwyr di-dâl, gweithwyr proffesiynol, rhanddeiliaid, a grwpiau cymunedol.

Mae’r ystorfa hon yn dwyn ynghyd adroddiadau ymgysylltu, canfyddiadau ymgynghori, arolygon, a dogfennau eraill sy’n cael eu llunio gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a sefydliadau partner. Mae’n darparu ffynhonnell ganolog o wybodaeth a thystiolaeth y gellir ei defnyddio i ddeall anghenion cymunedol, nodi themâu sy’n dod i’r amlwg, llywio’r gwaith o gynllunio gwasanaethau, a chefnogi penderfyniadau ar draws y gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant.

Trwy sicrhau bod yr adnoddau hyn ar gael mewn un lle, rydym yn anelu at gefnogi tryloywder, annog cydweithredu, a sicrhau y gellir cyrchu, rhannu a defnyddio safbwyntiau gwerthfawr a gafwyd trwy weithgareddau ymgysylltu i lywio datblygiadau yn y dyfodol ledled y rhanbarth.

Wedi diweddaru'r dolenni hyn ddiwethaf Medi 2026

Adroddiad Prosiect Ymchwil Mynd i’r Afael â Thlodi

Adroddiad yn amlinellu canfyddiadau allweddol yr ymchwil, gan gynnwys cymorth y nodwyd bod ei angen ar deuluoedd ac unigolion sy’n profi caledi ariannol yn Sir Benfro, a’r cyfraniadau yr hoffent eu gwneud i roi atebion ar waith.