WWRPB ⎸ News and Events
RYDYM YN CROESAWU EICH BARN: BLAENORIAETHAU ARFAETHEDIG AR GYFER STRATEGAETH GOFALWYR NESAF GORLLEWIN CYMRU
CAU: 3 MAWRTH 2025
Mae ymchwil yn dangos bod llawer o bobl yng Nghymru nad ydynt yn gweld eu hunain fel gofalwyr di-dâl.
Os ydych yn gofalu am aelod o’r teulu, ffrind neu gymydog yn rheolaidd nad yw o bosibl yn gallu ymdopi heb ryw fath o help, boed hynny’n siopa negeseuon neu ddarparu cymorth personol mwy dwys, byddech yn cael eich ystyried yn ofalwr di-dâl. Nid yw gofalwyr di-dâl bob amser angen neu eisiau cymorth, ond gall amgylchiadau newid, dros amser neu’n annisgwyl, gan arwain at argyfwng posibl neu ddirywiad mewn iechyd a llesiant.
Dylai gofalwyr di-dâl o bob oedran yng Ngorllewin Cymru fod yn weladwy, teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a chael eu cefnogi. Dyma’r blaenoriaethau arfaethedig a fydd yn sylfaen Strategaeth Gofalwyr nesaf Gorllewin Cymru, ac maent yn seiliedig ar y sgyrsiau rydym wedi’u cael gyda gofalwyr a sefydliadau di-dâl sy’n cefnogi gofalwyr di-dâl, dros y 9 mis diwethaf.
Rydym yn croesawu eich barn ac os hoffech helpu i lunio’r blaenoriaethau a’r camau gweithredu ar gyfer Strategaeth Gofalwyr 2025-2030, Cliciwch ar y ddolen:
Having the Workforce we Need.