Search

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru yn tynnu partneriaid ynghyd o lywodraeth leol, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, y trydydd sector a'r sector annibynnol, gyda defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr. Ein nod yw trawsnewid gwasanaethau gofal a chymorth yng Ngorllewin Cymru. Mae ein rhanbarth yn cwmpasu ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac yn cynnwys ardaloedd awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'n ofynnol i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol lunio cynllun cyfalaf strategol a fydd yn cyflwyno golwg 10 mlynedd ar ein hanghenion buddsoddi cyfalaf yn ein hardal. Hwn fydd ein Cynllun Cyfalaf Strategol cyntaf.

Download Preview