Dydd Iau 11fed Chwefror 2027
Haverfordwest High VC School
Haverfordwest,
Pembrokeshire, SA61 2NX
Ar ôl croesawu mwy na 600 o bobl i Wobrau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gorllewin Cymru 2026, rydym yn gyffrous i ddod â’r digwyddiad i Sir Benfro yn 2027.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd, ac unwaith eto eleni bydd yn dathlu’r unigolion, y gwirfoddolwyr, y timau a’r sefydliadau rhagorol sy’n gwella iechyd, llesiant ac ansawdd bywyd pobl ledled gorllewin Cymru. Y tu hwnt i’r gwobrau eu hunain, mae’r digwyddiad yn rhoi cyfle i rwydweithio, rhannu syniadau, arddangos arloesedd a dysgu mwy am waith Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru ynghyd â’i raglenni, ei ffrydiau gwaith a’i grwpiau dysgu niferus.
Edrychwn ymlaen at groesawu cydweithwyr, dinasyddion, gofalwyr, gwirfoddolwyr a sefydliadau cymunedol o bob rhan o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro ar gyfer dathliad ysbrydoledig arall o bartneriaeth, arloesedd a chyflawniad.
Categoriau ac Meini Prawf Gwobrau 2027
- Cyfraniad Eithriadol
- Tim Y Flwyddyn
- Gweithio Mewn Partneriaeth (Pob Sector)
- Gwirfoddolwr y Flwyddyn (Pob Sector)
- Seren y Dyfodol (Pob Sector)
- Effaith Barhaus (Pob Sector)
- Arweinyddiaeth Ysbrydoledig (Pob Sector)
- Bwrdd Ymgysylltu a Dianasyddion a'r Trydd Sector
Mae enwebiadau ar gyfer y gwobrau’n cau am 12pm ddydd Llun, 11 Ionawr 2027.
Sgroliwch i lawr i gael rhagor o wybodaeth am y categorïau gwobrau neu edrychwch ar y pecyn gwybodaeth yma.
Cofrestru ar gyfer y Seremoni Wobrwyo
Mae’n rhaid archebu eich lle ymlaen llaw yng Ngwobrau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gorllewin Cymru 2027. P’un a ydych chi’n cefnogi enwebai, yn cynrychioli sefydliad, neu’n ymuno â ni i ddathlu rhagoriaeth ledled gorllewin Cymru, cofrestrwch eich lle gan ddefnyddio’r ddolen isod.
Cofrestrwch i fynd i’r Seremoni Wobrwyo:
Newydd ar gyfer 2027!
Yn dilyn adborth gan enwebeion, cyfranogwyr a beirniaid, mae dau gategori gwobr wedi’u rhannu’n gategorïau’r Sector Statudol a’r Sector Cymunedol (mae hyn yn cynnwys y Trydydd Sector, Menter Gymdeithasol, Sefydliadau Preifat a Gwirfoddol). Mae’r newid hwn yn cydnabod bod sefydliadau a thimau yn gweithredu mewn amgylcheddau gwahanol, gyda chyfrifoldebau, adnoddau a threfniadau cyllido amrywiol.
Trwy gyflwyno categorïau ar wahân lle bo hynny’n briodol, rydym yn ceisio darparu sail decach ar gyfer cymharu gan gynnal ysbryd cydweithredol y gwobrau. Mae’r holl bobl sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn dal i fod yn rhan o’r dathliad ehangach o weithio mewn partneriaeth ledled gorllewin Cymru, a bydd enillydd cyffredinol yn cael ei ddewis gan Fwrdd Ymgysylltu â Dinasyddion a’r Trydydd Sector BPRhGC.
Mae modd cyflwyno enwebiadau’n ysgrifenedig neu ar ffurf fideo, gan helpu i wneud y gwobrau’n fwy hygyrch a sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i rannu eu stori yn y ffordd sy’n gweddu orau iddynt.
CYFRANIAD EITHRIADOL
Rhannwyd yn ddwy llif gwobrau:
Sefydliadau statudol (awdurdodau lleol, byrddau iechyd, a sefydliadau'r llywodraeth)
Sector cymunedol (y trydydd sector, mentrau cymdeithasol, sefydliadau preifat a gwirfoddol)
Mae’r categori hwn yn cydnabod unigolyn, tîm neu sefydliad sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol a mesuradwy i fywydau, iechyd a llesiant pobl ledled Gorllewin Cymru drwy ddarparu, gwella neu drawsnewid gwasanaethau.
Dylai enwebeion allu dangos sut mae eu gwaith yn:
•Gwella canlyniadau i ddinasyddion.
•Gwella mynediad at wasanaethau.
•Datblygu atebion arloesol i heriau lleol.
•Cyflawni gwelliannau mesuradwy o ran ansawdd, profiad neu lesiant.
•Cyflwyno newid cadarnhaol a pharhaol i unigolion, teuluoedd neu gymunedau.
TÎM Y FLWYDDYN
Rhannwyd yn ddwy llif gwobrau:
Sefydliadau statudol (awdurdodau lleol, byrddau iechyd, a sefydliadau'r llywodraeth)
Sector cymunedol (y trydydd sector, mentrau cymdeithasol, sefydliadau preifat a gwirfoddol)
Mae’r categori hwn yn dathlu tîm sydd wedi dangos rhagoriaeth mewn cydweithredu, cyflawni ac effaith.
Dylai enwebeion allu dangos sut mae eu tîm yn:
- Gweithio’n effeithiol gyda’i gilydd i gyflawni nodau a rennir.
- Gwella canlyniadau i bobl a chymunedau.
- Cyflwyno newid cadarnhaol trwy waith tîm.
- Datblygu atebion arloesol i heriau.
- Cyflawni gwelliannau mesuradwy trwy weithio ar y cyd.
GWEITHIO MEWN PARTNERIAETH (POB SECTOR)
Mae’r categori hwn yn dathlu prosiect, tîm neu bartneriaeth sydd wedi dangos cydweithrediad a chyd-gynhyrchu eithriadol.
Dylai enwebeion allu dangos sut maen nhw wedi:
- Gweithio ar y cyd ar draws sefydliadau, sectorau neu gymunedau.
- Cydweithredu a gweithio’n ystyrlon gyda dinasyddion.
- Gwella canlyniadau trwy weithio mewn partneriaeth.
- Cyd-gynllunio gwasanaethau, prosiectau neu fentrau gyda phobl sy’n eu defnyddio.
- Cyflawni gwelliannau mesuradwy trwy ddulliau cydweithredol.
EFFAITH BARHAUS (POB SECTOR)
This category recognises an individual or service which has created a lasting impact within health, social care or wellbeing services across West Wales.
Nominees should be able to demonstrate how their work has:
- Created sustainable and long-term improvements.
- Influenced positive changes in culture, practice or service delivery.
- Left a lasting impact on people, communities or organisations.
- Improved outcomes for future generations.
GWIRFODDOLWR Y FLWYDDYN (POB SECTOR)
I unigolion yn unig:
Mae’r wobr hon yn cydnabod unigolyn eithriadol sydd wedi dangos ymrwymiad, ymroddiad ac effaith eithriadol trwy wirfoddoli.
Dylai enwebeion allu dangos sut maen nhw wedi:
- Gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau eraill.
- Helpu pobl i wella neu gynnal eu hiechyd a’u llesiant.
- Cyfrannu at wella gwasanaethau iechyd, gofal neu lesiant lleol.
- Rhoi eu hamser, eu sgiliau a’u profiad er budd eu cymuned.
Rising Star (All Sectors)
I unigolion yn unig:
Mae’r wobr hon yn dathlu unigolion yn ystod deng mlynedd gyntaf eu gyrfa sy’n dangos potensial eithriadol, arloesedd ac ymroddiad.
Dylai enwebeion allu dangos sut maen nhw wedi:
- Dangos potensial eithriadol o fewn eu rôl.
- Cymryd agwedd greadigol ac arloesol at eu gwaith.
- Dylanwadu ar gydweithwyr, gwasanaethau neu gymunedau.
- Dangos ymrwymiad i wella canlyniadau i bobl yng Ngorllewin Cymru.
ARWEINYDDIAETH YSBRYDOLEDIG (POB SECTOR)
I unigolion yn unig:
Mae’r wobr hon yn anrhydeddu unigolion sydd wedi darparu arweiniad, cefnogaeth ac ysbrydoliaeth eithriadol i eraill.
Dylai enwebeion allu dangos sut maen nhw wedi:
- Ysbrydoli ac ysgogi eraill i gyflawni eu potensial.
- Arwain trwy esiampl ac arddangos eu gwerthoedd yn ymarferol.
- Cefnogi llesiant a datblygiad cydweithwyr, gwirfoddolwyr neu gymunedau.
- Meithrin diwylliant cadarnhaol, cynhwysol a chefnogol.
- Dylanwadu ar newid cadarnhaol trwy arweinyddiaeth effeithiol.
BWRDD YMGYSYLLTU Â DINASYDDION A'R TRYDYDD SECTOR
Nid yw Dewis y Dinasyddion a’r Trydydd Sector yn agored i enwebiadau. Bydd enwebeion yn cael eu dewis gan aelodau Bwrdd Ymgysylltu â Dinasyddion a’r Trydydd Sector BPRhGC. I gael rhagor o wybodaeth am y Bwrdd Dinasyddion a’r Trydydd Sector, cliciwch yma.
2027 Award Submission Guidance & FAQ
Cyflwyno'r enwebiad:
Mae croeso i chi gyflwyno enwebiadau amdanoch chi’ch hun, tîm, prosiect neu eich sefydliad eich hun.
Gellir cyflwyno enwebiadau yn ysgrifenedig neu ar ffurf fideo (uchafswm o 3 munud). Bydd cyflwyniadau fideo a chyflwyniadau ysgrifenedig yn cael eu hasesu gan ddefnyddio’r un meini prawf beirniadu.
Gall enwebai gael ei gynnwys mewn mwy nag un categori lle bodlonir y meini prawf cymhwysedd. Dylid cwblhau ffurflenni enwebu ar wahân ar gyfer pob categori.
Os yw unigolyn, tîm, prosiect neu sefydliad wedi ennill gwobr o’r blaen, rhaid i enwebiadau fod yn seiliedig ar gyflawniad, prosiect, menter neu ddarn o waith gwahanol.
Ysgrifennu'r enwebiad:
Mae’r enwebiadau gorau yn disgrifio’n glir beth a wnaed, y gwahaniaeth a wnaed a pham ei fod yn bwysig. Ceisiwch gynnwys enghreifftiau, adborth, canlyniadau, ystadegau neu dystiolaeth arall i ddangos effaith lle bynnag y bo modd.
Gallwch gynnwys:
•Ystadegau a chanlyniadau
•Adborth gan ddinasyddion, cydweithwyr neu bartneriaid
•Astudiaethau Achos
•Gwelliannau i’r gwasanaeth
•Sylwadau gan eraill
•Gwobrau neu gydnabyddiaeth a gafwyd
•Enghreifftiau o newid cadarnhaol
Efallai na fydd beirniaid yn gyfarwydd â’r enwebai, y sefydliad neu’r prosiect. Ceisiwch osgoi acronymau a gofalwch eich bod yn darparu digon o fanylion i’r panel beirniaid ddeall y cyflawniad a’i arwyddocâd.
Rydyn ni’n argymell ymatebion rhwng 150 a 300 gair fesul cwestiwn.
Peidiwch â chynnwys gwybodaeth gyfrinachol, sensitif neu bersonol nad yw’n berthnasol i’r enwebiad. Rydyn ni’n defnyddio’r wybodaeth sy’n cael ei chyflwyno ar gyfer yr areithiau gwobrwyo ar y diwrnod.
Sut maen nhw'n cael eu barnu?
Bydd pob enwebiad yn cael ei asesu gan banel beirniaid annibynnol yn erbyn y meini prawf dyfarnu cyhoeddedig. Bydd y beirniaid yn ystyried y cyflawniad, yr effaith, y dystiolaeth a ddarperir a’r aliniad â’r categori wobr.
Bydd y beirniaid yn ystyried:
•Cyflawniad a chyfraniad
•Effaith a chanlyniadau
•Tystiolaeth a ddarparwyd
•Cyd-fynd â chategori y wobr
A oes gennych ymholiad? Anfonwch e-bost atom ar wwrpb@sirgar.gov.uk.
Beth hoffech chi ei weld yn y gwobrau?
Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad y llynedd, rydym yn edrych ar ffyrdd o wneud Gwobrau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gorllewin Cymru 2027 hyd yn oed yn well.
Rydym yn gwahodd mynychwyr, enwebeion, sefydliadau, gwirfoddolwyr ac aelodau o’r cyhoedd i rannu eu sylwadau am yr hyn yr hoffent ei weld yn y digwyddiad eleni. P’un a hoffech chi gael cyfleoedd i rwydweithio, stondinau arddangos, siaradwyr gwadd, adloniant, neu rywbeth hollol wahanol, byddem wrth ein bodd yn clywed eich syniadau.
Cwblhewch ein harolwg byr trwy glicio yma a helpwch i lunio gwobrau 2027.
Stondinau Gwybodaeth ar gyfer 2027
Yn ein digwyddiad yn 2027 bydd gennym barth arddangos pwrpasol yn yr atriwm gyda lle i 40 o stondinau gwybodaeth sy’n cynrychioli’r ystod amrywiol o wasanaethau a sefydliadau ledled gorllewin Cymru.
Cliciwch yma i gofrestru bod gennych ddiddordeb i gael stondin drwy glicio yma.
Sylwch fod y stondinau arddangos ar agor i’r cyhoedd nad ydynt efallai yn mynd i’r gwobrau.





Enillwyr a Rhestr Ferdi'r Blwyddyn Gyntaf
Ddydd Iau, 5 Mawrth, 2026, roedd Pentre Awel wedi cynnal Gwobrau blynyddol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gorllewin Cymru. Dyma’r tro cyntaf i ni gynnal y gwobrau fel digwyddiad annibynnol, ac mewn partneriaeth â Digwyddiad Heneiddio’n Dda Sir Gaerfyrddin. Roeddem wedi croesawu dros 600 o bobl i weld dros 74 o stondinau arddangos ac roedd yr ystafell yn llawn yn y seremoni wobrwyo yn y prynhawn.
Mae gennym gofnod llawn a recordiadau o areithiau’r diwrnod y gallwch eu gweld drwy glicio yma.
Ddydd Mawrth, 11 Mawrth 2025, cynhaliwyd Cynhadledd flynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru (BPRhGC) a Gwobrau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gorllewin Cymru ym Mharc y Scarlets.
2024
Ein digwyddiad 2024 oedd ein digwyddiad cyntaf ers 2019, roedd gennym ni chwe chategori gwobr ac roedd dros 160 o bobl yn bresennol.