Search
WWHSC award logo 2026 Cym

Dydd Iau 5ed Mawrth 2026

Canolfan Pentre Awel, Llanelli SA15 2EZ

Diolch i bawb a ymunodd â ni ar gyfer Gwobrau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru (BPRhGC) ac Arddangosfa Sefydliadau Heneiddio’n Dda Sir Gâr.

Ddydd Iau, 5 Mawrth 2026, roeddem yn falch iawn o groesawu dros 600 o weithwyr proffesiynol, defnyddwyr gwasanaeth, gwirfoddolwyr, ac aelodau’r cyhoedd i Bentre Awel—yn dod ynghyd o dan yr unto i ddathlu’r gwaith rhagorol sy’n digwydd ar draws Gorllewin Cymru.

Estynnwn ein llongyfarchiadau i’r holl enwebeion ac i’r rhai a gyhoeddwyd fel enillwyr ym mhob categori gwobr. Roedd pob enwebiad yn adlewyrchu ymroddiad, tosturi, arloesedd, a’r effaith bwerus y mae sefydliadau ac unigolion yn ei chael bob dydd ar draws ein cymunedau. Diolch i bawb a gymerodd yr amser i ddod, cymryd rhan, a chefnogi’r bobl a’r timau arbennig a gafodd eu cydnabod yn ystod y digwyddiad.

Ar hyn o bryd mae Michael yn golygu ac yn lanlwytho’r holl luniau a fideos o’r digwyddiad eleni, byddwn yn rhannu’r rhain gyda chi pan fyddant yn barod.

Adborth

Wrth i ni barhau i ddatblygu a chyflwyno digwyddiadau rhanbarthol ystyrlon, mae eich adborth yn hynod bwysig i ni. Byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech gymryd dwy funud i gwblhau ein ffurflen adborth am y digwyddiad. Dyma’r ddolen i’r arolwg.

Stondinau Gwybodaeth ar gyfer 2026

Roedd Pentre Awel yn cynnwys parth arddangos pwrpasol yn yr atriwm, gan groesawu 74 o stondinau gwybodaeth oedd yn cynrychioli’r ystod amrywiol o wasanaethau a sefydliadau ledled Gorllewin Cymru.

Mae gwirfoddolwr ar gyfer Lemon+Aid yn creu cyfeiriadur o’r holl sefydliadau a restrir isod, byddwn ni’n rhannu hwn gyda chi ar ôl iddo gael ei gwblhau. 

  • Actif Sport & Leisure (Falls Prevention Programme) – Please could we have a space for undertaking a couple of functional tests.
  • Activate West Wales (trading as West Wales Sports Parntership)
  • Adferiad, Carmarthenshire Carers Information and Support Service
  • Age Cymru
  • Age Cymru Dyfed
  • ANGOR
  • Arts Care Gofal Celf
  • Ataxia and me org
  • Barod cic
  • Cardiff University/IMPACT Centre (Improving Adult Social Care Together)
  • Care and Repair Carmarthenshire
  • Carers Support West Wales
  • Carers Trust Crossroads West Wales
  • Carmarthen Stroke Club
  • Carmarthenshire County Council – Road Safety
  • Carmarthenshire Libraries
  • Carmarthenshire Living Well Centre (PLANED)
  • Carmarthenshire Trading Standards
  • Carmarthenshire Working
  • Cartrefi Cymru
  • Case-uk
  • Catalyst for Care – Planed
  • CAVS (Carmarthenshire Association of Voluntary Services)
  • CCC Health Protection Team
  • CETMA
  • Coleg Sir Gar
  • Commissioning – Dep for Communities – Carmarthenshire County Council
  • Communities for Work Plus
  • CTD Care Services
  • Customer Service Hwb – Carmarthenshire County Council
  • Delta Wellbeing
  • Dolen Teifi Community Transport for All
  • Dyfed Powys Police
  • EmpathWorks Leadership Consultancy
  • Foothold Cymru
  • Hywel Dda Admiral Nurse Service
  • Hywel Dda Community Development Outreach Team
  • hywel dda community/ frailty
  • Hywel Dda UHB (Arts and Health Team)
  • Hywel dda University Health Board
  • Lemon+Aid
  • Links
  • Llais West Wales
  • Llyfrau Llafar Cymru / Talking Books Wales
  • Marie Curie
  • Nacro Connecting Carmarthenshire
  • Nelson Trust
  • Neurokind Inclusion CIC
  • Older People’s Commissioner for Wales
  • PACTO – Pembrokeshire Association of Community Transport Organisations
  • Palpitation Service (Will be providing health checks e.g Blood pressure / pulse / BMI)
  • Parc Dewi Sant Ltd
  • PAVS – Community Connectors and Pembrokeshire Community Hub
  • Pembrokeshire Association of Voluntary Services (PAVS) & Pembrokeshire Community Hub
  • Pembrokeshire People First
  • People Speak Up
  • Physical Empowerment CIC
  • Practice Solutions
  • PRIME Cymru
  • Public Health Team Hywel Dda University Health Board
  • Red Brand Media
  • Rural Health and Care Wales
  • Social Prescribing – Carmarthenshire County Council
  • Tenovus Cancer Care
  • The National Neurodivergence Team
  • The Wallich
  • Threshold DAS- Ty Rhosyn Project
  • Tumble lindy hop jive Carmarthenshire lindy hoppers
  • Ty Golau Dementia Charitable Trust
  • Waiting List Support Service, Hywel Dda Health Board
  • Wales Mental Health and Wellbeing Forum
  • West Wales Shared Lives

gategorïau ar gyfer 2026

Gwobr Effaith Ieuenctid

Mae’r wobr hon ar gyfer unigolion ifanc y mae eu gweithrediadau wedi helpu iechyd, gofal, gwasanaethau llesiant neu eu cymuned.
Mae modd gwneud hyn drwy:
•Bod yn arweinydd neu’r sbardun y tu ôl i brosiect, ymgyrch neu weithgaredd newydd sy’n mynd i’r afael â phroblem allweddol yn y gymuned.
•Cynnig cefnogaeth a helpu pobl i ddod yn iachach, teimlo’n hapusach, neu fynd i’r afael ag unigrwydd.
•Gweithio i wneud eu hysgol neu eu cymuned yn lle mwy croesawgar a chefnogol ar gyfer llesiant pawb.
•Mynd y tu hwnt i’r hyn a ddisgwyliwyd, gan roi eu hamser i wella iechyd, gofal neu wasanaethau cymunedol lleol.

Gwirfoddolwr y Flwyddyn

Mae’r wobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn yn cydnabod unigolyn eithriadol sydd wedi dangos ymrwymiad, ymroddiad ac effaith eithriadol drwy ei waith gwirfoddol ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol.

Mae’r wobr hon ar gyfer unigolyn sydd wedi cefnogi gwasanaethau iechyd, gofal neu lesiant lleol. Gallai hyn fod drwy:
• Darparu cymorth a gwybodaeth i bobl; mae angen i unigolyn fod yn gymwys cyn iddo allu cynnig cyngor
• Helpu pobl i gynnal neu wella ansawdd eu bywydau;
• Helpu pobl i wella neu gynnal eu hiechyd a’u llesiant;
• Ychwanegu gwerth at wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol neu lesiant.

Awarded to – Roy Davies

Highly Commended – Mike Dunnage

Highly Commended – Rory Westhoff

Highly Commended – Robert Ramsaha-Southall

Highly Commended – Lynne Wells

Highly Commended – Lorna & Billy Faichney

Cyfraniad Eithriadol (i iechyd a gofal cymdeithasol)

Mae’r categori hwn yw dathlu unigolyn neu dîm a wnaeth gyfraniad neu gyflawniad rhagorol i’r sector iechyd a gofal cymdeithasol yng ngorllewin Cymru.

Awarded to – Dorothy Howells

Highly Commended – Skybound Therapies West Wales

Highly Commended – Lorraine Davies

Tîm y Flwyddyn

Mae’r categori hwn yn dathlu’r tîm sydd wedi dangos rhagoriaeth mewn cydweithrediad a gweithio mewn partneriaeth drwy wneud y canlynol:
• Dangos effaith gadarnhaol yn glir trwy ffurfio, datblygu neu drawsnewid tîm.
• Galluogi gwelliant ym mywydau dinasyddion gorllewin Cymru.
• Sicrhau newid cadarnhaol drwy weithio mewn tîm.
• Dangos gwelliannau mesuradwy drwy weithio mewn tîm, cydweithio a gweithio mewn partneriaeth

Awarded to – Clinical Informatics and Digital Innovation & Transformation joint team

Highly Commended – Outpatients Team Hywel Dda Team

Highly Commended – Care and Companionship 

Gwobr Seren Ddisglair

Mae’r wobr hon yn dathlu gweithwyr proffesiynol sy’n dangos potensial, arloesedd ac ymroddiad rhagorol i wella bywydau’r bobl yng ngorllewin Cymru trwy:
• Dangos ymagwedd greadigol ac arloesol at eu gwaith, gan arwain at syniadau neu atebion newydd sydd wedi arwain at effaith gadarnhaol.
• Cyflawni gwaith o ansawdd uchel sydd y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylir o ran eu rôl.
• Dangos rhinweddau o ran arweinyddiaeth gadarn, sy’n ysbrydoli eraill.

Awarded to – Amy Hubbuck

Highly Commended – Sam Hall

Highly Commended – Jenna Davies

Gwobr Effaith Barhaus

Mae’r wobr hon yn ceisio cydnabod unigolyn sydd wedi creu effaith barhaus yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Gall hyn fod yn welliant, newid i wasanaeth neu newid o ran diwylliant i bobl gorllewin Cymru.

Awarded to – Peter Clark

Highly Commended – Karen Davies

Highly Commended – West Lodge Childrens Home

Gwobr Arweinyddiaeth Ysbrydoledig

Mae’r wobr hon yn cydnabod y rhai sydd wedi darparu arweiniad, cefnogaeth ac ysbrydoliaeth ragorol, gan feithrin eu twf a’u potensial, drwy:
• Ysbrydoli ac ysgogi eraill i wneud eu rolau a’u hannog i wneud gwahaniaeth
• Dangos bod llesiant wrth wraidd y gwaith.

Awarded to – Chloe Davies

Highly Commended – Gail Sinclair

Highly Commended – Physical Empowerment

Gweithio mewn Partneriaeth

Mae’r categori hwn yw dathlu:
• Prosiect neu dîm sydd wedi dangos cyd-gynhyrchu gwirioneddol ac arweinyddiaeth a chydweithio parhaus a arweinir gan ddefnyddwyr.
• Wedi dangos effaith gadarnhaol ar wasanaeth, prosiect neu dîm drwy gyd-gynhyrchu dilys.
• Gallu nodi’r ffactorau allweddol sydd wedi arwain at gynnwys defnyddwyr mewn modd cynhwysfawr.
• Gallu dangos gwasanaeth, prosiect neu dîm a gafodd ei gyd-gynllunio a’i ddarparu gan ddefnyddwyr yng ngorllewin Cymru.
• Gallu nodi gwelliannau mesuradwy a gyflawnwyd drwy ymwneud â defnyddwyr a chyd-gynhyrchu.

Awarded to – Carmarthenshire Living Well Centre

Highly Commended – Regional Coaching Network

Highly Commended – Carey Osborne (Lemon+Aid) and Peter Clark

Highly Commended – Good Life with Dementia

 

Dewis y Dinasyddion a'r Trydydd Sector

Dewiswyd Peter a Carey (lemon+aid) gan aelodau Bwrdd Ymgysylltu â Dinasyddion a’r Trydydd Sector BPRhGC.

 

I gael rhagor o wybodaeth am y Bwrdd Ymgysylltu â Dinasyddion a’r Trydydd Sector, dilynwch y ddolen yma https://wwrpb.org.uk/cy/cymryd-rhan/

Enillwyr Blaenorol a'r Rownd Derfynol

WWHSC award logo Full name purplle small

Ddydd Mawrth, 11 Mawrth 2025, cynhaliwyd Cynhadledd flynyddol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru (BPRhGC) a Gwobrau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gorllewin Cymru ym Mharc y Scarlets. 

Mae gennym erthygl lawn a recordiadau o’r areithiau ar gyfer y diwrnod y gallwch chi eu gweld trwy glicio yma

2024

Ein digwyddiad 2024 oedd ein digwyddiad cyntaf ers 2019, roedd gennym ni chwe chategori gwobr ac roedd dros 160 o bobl yn bresennol. 

Gallwch chi weld rhagor o wybodaeth am y digwyddiad a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol ar y ddolen trwy glicio yma.