Search

WWRPB Sbarduno Newid o'r tu Mewn

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Er mwyn sicrhau Cymru Iachach, mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru (WWRPB) yn chwarae rhan hanfodol wrth oruchwylio a llywodraethu partneriaeth o sefydliadau yn y rhanbarth sy’n gweithio i wella sut y caiff gwasanaethau iechyd a gofal eu darparu, gan sicrhau bod y cymorth cywir ar gael ar yr adeg gywir i helpu pobl yng Ngorllewin Cymru i wella a chynnal eu hiechyd a’u llesiant.

Pwy Ydym Ni A Beth Yw Ein Gwaith Ni

Amdanom Ni

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru (WWRPB) yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Ceredigion, Cyngor Sir Penfro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, cynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaeth annibynnol a’r trydydd sector a gofalwyr di-dâl. Ein nod yw sicrhau bod gan bobl y cymorth cywir ar yr adeg gywir i wella eu canlyniadau iechyd a lles.

Mae gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru lawer o flaenoriaethau pwysig. Fodd bynnag, mae’r canlynol yn cael eu hamlygu fel meysydd ffocws penodol i ni.

Arloesi

Gan weithio gyda phartneriaid o sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, rydym yn hwyluso'r prosesau a'r perthnasoedd sydd eu hangen i ddatblygu arfer arloesol, i gydnabod, gwerthuso a hyrwyddo llwyddiant ac mewn partneriaeth â Hwb RIC.

Integreiddio

Rydym yn hyrwyddo integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy ddatblygu cynlluniau gofal integredig, strategaethau comisiynu ar y cyd, a llwybrau gofal ar y cyd.

Cynnwys

Rydym yn trawsnewid gwasanaethau sy’n darparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, drwy gynnwys unigolion a’u grymuso i wneud penderfyniadau gwybodus am eu gofal a hyrwyddo eu rhan yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau.

EICH PROFIADAU

RHANNU STRAEON A DYSGU

Rhan allweddol o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yw sicrhau y gofynnir i bobl beth sy’n bwysig iddyn nhw. Yma rydym yn rhannu enghreifftiau a straeon bywyd go iawn o sut mae ein dinasyddion yn elwa ar y gwasanaethau a ddarparwyd.

Mae Eich Llais Yn Bwysig

Cymryd Rhan

Mae dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol o fudd i bawb; mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru yn lle i bawb fynegi eu llais.

We encourage the active involvement and engagement of individuals who use health and social care services, as well as their families and caregivers, in the decision-making process of the WWRPB, through the citizen representatives that apply to join the RPB. They, along with people with lived experience who contribute to other boards and groups, help to inform and shape the planning and delivery of services.

Pwy Sy'n Gallu
Cymryd Rhan?

Gall pawb gymryd rhan! Boed yn ddefnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd, neu roddwyr gofal, mae eich llais yn bwysig wrth lunio dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol.

Pam Y Dylwn I
Cymryd Rhan?

Your voice matters in shaping & improving health & social care services! Share your views, & make a difference.

Sut I
Cymryd Rhan?

Cliciwch ar y ddolen isod i gael gwybod mwy am sut y gallwch chi gymryd rhan a rhannu eich barn gyda ni. Gyda'n gilydd, gallwn lunio dyfodol gwell.

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru

Newyddion a Digwyddiadau

Dolenni Defnyddiol A Chysylltiadau

Cysylltu â Ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu i gael rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Dewch o hyd i ddolenni a chysylltiadau defnyddiol ar gyfer gwasanaethau lleol yng Ngorllewin Cymru. P’un a ydych chi’n chwilio am gefnogaeth benodol neu’n chwilio am ragor o wybodaeth, gall yr adnoddau hyn ddarparu cymorth gwerthfawr.