Search

Cynhadledd a Gwobrau BPRhGC 2025

WWHSC award logo Full name Cymraeg small

11 Mawrth 2025

Parc Y Scarlets, Maes-Ar-Ddafen Road, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA14 9UZ

Rydym wedi gwrando ar eich adborth ers Gwobrau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gorllewin Cymru 2024 ac rydym yn falch o gyhoeddi bod rhagor o gategorïau ar gyfer 2025!

Mae’r enwebiadau’n cau ar 12 Ionawr 2025. Ar ôl y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau, bydd panel o aelodau Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru yn llunio’r rhestr fer o’r tri enwebai gorau ym mhob categori.

I enwebu ar gyfer y gwobrau hyn, dilynwch y ddolen gyswllt hon:

https://online1.snapsurveys.com/wwhealthandsocialcareawards

gategorïau ar gyfer 2025

Gwirfoddolwr y Flwyddyn

Mae’r wobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn yn cydnabod unigolyn eithriadol sydd wedi dangos ymrwymiad, ymroddiad ac effaith eithriadol drwy ei waith gwirfoddol ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol.

Mae’r wobr hon ar gyfer unigolyn sydd wedi cefnogi gwasanaethau iechyd, gofal neu lesiant lleol. Gallai hyn fod drwy:
• Darparu cymorth a gwybodaeth i bobl; mae angen i unigolyn fod yn gymwys cyn iddo allu cynnig cyngor
• Helpu pobl i gynnal neu wella ansawdd eu bywydau;
• Helpu pobl i wella neu gynnal eu hiechyd a’u llesiant;
• Ychwanegu gwerth at wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol neu lesiant.

Cyfraniad Eithriadol (i iechyd a gofal cymdeithasol)

Mae’r categori hwn yw dathlu unigolyn neu dîm a wnaeth gyfraniad neu gyflawniad rhagorol i’r sector iechyd a gofal cymdeithasol yng ngorllewin Cymru.

Tîm y Flwyddyn

Mae’r categori hwn yn dathlu’r tîm sydd wedi dangos rhagoriaeth mewn cydweithrediad a gweithio mewn partneriaeth drwy wneud y canlynol:
• Dangos effaith gadarnhaol yn glir trwy ffurfio, datblygu neu drawsnewid tîm.
• Galluogi gwelliant ym mywydau dinasyddion gorllewin Cymru.
• Sicrhau newid cadarnhaol drwy weithio mewn tîm.
• Dangos gwelliannau mesuradwy drwy weithio mewn tîm, cydweithio a gweithio mewn partneriaeth

Gwobr Seren Ddisglair

Mae’r wobr hon yn dathlu gweithwyr proffesiynol sy’n dangos potensial, arloesedd ac ymroddiad rhagorol i wella bywydau’r bobl yng ngorllewin Cymru trwy:
• Dangos ymagwedd greadigol ac arloesol at eu gwaith, gan arwain at syniadau neu atebion newydd sydd wedi arwain at effaith gadarnhaol.
• Cyflawni gwaith o ansawdd uchel sydd y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylir o ran eu rôl.
• Dangos rhinweddau o ran arweinyddiaeth gadarn, sy’n ysbrydoli eraill.

Gwobr Effaith Barhaus

Mae’r wobr hon yn ceisio cydnabod unigolyn sydd wedi creu effaith barhaus yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Gall hyn fod yn welliant, newid i wasanaeth neu newid o ran diwylliant i bobl gorllewin Cymru.

Gwobr Arweinyddiaeth Ysbrydoledig

Mae’r wobr hon yn cydnabod y rhai sydd wedi darparu arweiniad, cefnogaeth ac ysbrydoliaeth ragorol, gan feithrin eu twf a’u potensial, drwy:
• Ysbrydoli ac ysgogi eraill i wneud eu rolau a’u hannog i wneud gwahaniaeth
• Dangos bod llesiant wrth wraidd y gwaith.

Gweithio mewn Partneriaeth

Mae’r categori hwn yw dathlu:
• Prosiect neu dîm sydd wedi dangos cyd-gynhyrchu gwirioneddol ac arweinyddiaeth a chydweithio parhaus a arweinir gan ddefnyddwyr.
• Wedi dangos effaith gadarnhaol ar wasanaeth, prosiect neu dîm drwy gyd-gynhyrchu dilys.
• Gallu nodi’r ffactorau allweddol sydd wedi arwain at gynnwys defnyddwyr mewn modd cynhwysfawr.
• Gallu dangos gwasanaeth, prosiect neu dîm a gafodd ei gyd-gynllunio a’i ddarparu gan ddefnyddwyr yng ngorllewin Cymru.
• Gallu nodi gwelliannau mesuradwy a gyflawnwyd drwy ymwneud â defnyddwyr a chyd-gynhyrchu.

Dewis y Dinasyddion a'r Trydydd Sector

Nid yw Dewis y Dinasyddion a’r Trydydd Sector yn agored i enwebiadau. Bydd enwebeion yn cael eu dewis gan aelodau Bwrdd Ymgysylltu â Dinasyddion a’r Trydydd Sector BPRhGC. I gael rhagor o wybodaeth am y Bwrdd Dinasyddion a’r Trydydd Sector dilynwch y ddolen hon:

Cymryd Rhan – West Wales Regional Partnership Board

GWobrau 2024

Gwobr trawsnewid drwy arloesedd

Gwobr 1af – Alison Jones ac Emma Catling, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Canmoliaeth Uchel – Alexandra Rees, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Canmoliaeth Uchel – Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol Ceredigion, Cyngor Sir Ceredigion 

Gwobr Gofal Integredig

Gwobr 1af – Maeth a hydradiad mewn Ysbyty Ystyriol o Ddementia (Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda)

Canmoliaeth Uchel – Fran Bayley, Nia Williams, a Steffan Warren – Y Tîm Deieteg Gwella Iechyd

Canmoliaeth Uchel – Leigh George a Thîm Gwasanaeth Offer Cymunedol Integredig Sir Gaerfyrddin (CICES)

Canmoliaeth Uchel – Hwb Cymunedol Sir Benfro

Gwobr Tîm y Flwyddyn

Gwobr 1af – Oriel VC, Doc Penfro

Canmoliaeth Uchel – Hwb Cymunedol Sir Benfro

Canmoliaeth Uchel – Emmaline Platek a David Thomas, Q Care Wales

Canmoliaeth Uchel – RAY Ceredigion

Gwobr Cyd-gynhyrchu

Gwobr 1af – Julie Cunningham, Cyngor Sir Penfro

Canmoliaeth Uchel – Prosiect Llwybrau at Gyflogaeth, Cyngor Sir Penfro

Canmoliaeth Uchel – Cymorth Gofalwyr Gorllewin Cymru, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS)

Gwobr Datblygu'r Gweithlu

Gwobr 1af – Sarah Hanley, Rheolwr Tîm – Cyngor Sir Penfro

Canmoliaeth Uchel – Tîm Rhwydwaith Hyfforddi, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Canmoliaeth Uchel – Tîm Aseswyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cyngor Sir Penfro

Gwobr cyfraniad rhagorol i iechyd a gofal cymdeithasol

Gwobr 1af – Lucy Cummings, PLANED

Canmoliaeth Uchel – Anna Prytherch, Iechyd Gwledig a Gofal Cymru (RHCW)

Canmoliaeth Uchel – Avril Bracey, Cyngor Sir Caerfyrddin

Canmoliaeth Uchel – Lance Morgan, Gwirfoddolwr, Coleshill