WWRPB ⎸ Ysgol Newid
Cymryd Rhan
Rydym yn annog cyfranogiad ac ymgysylltiad gweithredol unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â’u teuluoedd a’u gofalwyr, ym mhroses gwneud penderfyniadau Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru. Maent yn helpu i lywio a siapio’r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau.

Pwy sy'n Gallu Cymryd Rhan?
Rydym am glywed gan bobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol neu sy'n gweithio i sefydliadau'r trydydd sector yn y sector. Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar nifer y cynrychiolwyr sy'n gallu ymuno â ni.

Sut y gallwch chi gymryd rhan?
Mae tair ffordd o gymryd rhan ym Mwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru: Bwrdd Ymgysylltu â Dinasyddion a'r Trydydd Sector Cyfarfod Galw Heibio Cyfathrebu ac Ymgysylltu Gorllewin Cymru Grwpiau Cymorth a Rhwydwaith y Trydydd Sector

Rydym yma i'ch cefnogi chi
Mae ein cyfarfodydd yn gynhwysol ac yn agored i bawb. Rydym yn cynnig opsiynau wyneb yn wyneb ac ar-lein, ac rydym yn deall bod bywyd yn brysur - nid oes angen ymrwymo i fynd i bob cyfarfod.
Creu newid ystyrlon
Ymuno â'r bwrdd ymgysylltu â dinasyddion a'r trydydd sector
Ydych chi am gymryd mwy o ran yn eich ardal? Mae’r Bwrdd Dinasyddion a’r Trydydd Sector yn ffordd wych o wneud hynny. Gallwch helpu i greu a gwella gwasanaethau yng Ngorllewin Cymru. Gallwch helpu i newid sut mae pethau’n cael eu gwneud a byddwn yn dangos i chi sut mae eich adborth yn gwella pethau
Gallwch roi safbwynt gwerthfawr ynghylch anghenion pobl yng Ngorllewin Cymru, a helpu i sicrhau bod y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud yn cael eu llywio gan y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau a ddarperir.
Bydd y bwrdd yn cynnal cyfarfod bob 2 fis wyneb yn wyneb ac ar-lein, mae’n iawn os na allech chi gyrraedd pob cyfarfod.
Yn ogystal â chyfarfodydd y bwrdd, rydym hefyd yn cynnig cyfarfodydd penodol eraill y gallai fod gennych ddiddordeb ynddynt. Gallwch ddewis mynychu’r rhain yn hytrach na chyfarfodydd ymgysylltu â dinasyddion, neu hyd yn oed fynd i’r ddau!
Rydym yn croesawu pob aelod newydd i’r tîm drwy gynnal sesiwn ymsefydlu. Ar yr adeg hon byddem yn eich helpu i ddeall eich rôl a’r hyn y mae’r BPRhGC yn ei wneud.
Byddwch yn derbyn cefnogaeth benodol ar gyfer pob mater ymarferol. Mae hyn yn cynnwys help gyda chymorth TG, hawlio treuliau, cael gafael ar bapurau cyfarfod, a sicrhau bod dogfennau’n cael eu dosbarthu’n brydlon.
Bydd treuliau parod cymesur yn cael eu had-dalu, gan gynnwys costau teithio a gofalwr.
Mae ein cyfarfodydd wedi’u cynllunio fel eu bod yn hawdd ymuno â nhw, naill ai ar-lein neu yn bersonol. Rydym yn dechrau drwy sicrhau bod pawb yn teimlo bod croeso iddynt gan roi cyflwyniadau a diweddariadau. Yna, rydym yn dechrau trafodaethau am wasanaethau lleol pwysig. Byddwch yn cael cyfle i ddysgu am bynciau a chyfrannu atynt, megis Strategaeth Gofalwyr Gorllewin Cymru, sut i wella iechyd cymunedol, a’r broses o ryddhau cleifion o’r ysbyty. Rydym yn credu bod llais pawb yn bwysig, ac rydym am i chi rannu eich safbwynt.
P’un a ydych chi’n gysylltiedig â grwpiau cymorth eraill yng Ngorllewin Cymru neu eich bod am rannu eich profiadau eich hun, mae eich llais yn bwysig. Gallwch gynnig safbwyntiau grwpiau lleol i’n cyfarfodydd, neu rannu eich dealltwriaeth bersonol o iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant. Byddwch hefyd yn ein helpu i rannu’r neges am ddigwyddiadau pwysig ar draws y rhanbarth. Mae pob cyfraniad yn ein helpu i feithrin cymuned gryfach ac iachach i bawb.
Gwrandewch ar yr hyn sydd gan ein cynrychiolwyr yn y gorffennol a'n presennol i'w ddweud
Llais y Cynrychiolwyr


inesydd ac aelod o fwrdd y trydydd sector yn cynnal gweithdy rhanbarthol!
Mae Alan a James yn ddau gynrychiolydd dinasyddion sydd wedi bod ar Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru ers amser hir. Mae eu profiad a’u dealltwriaeth


Mae gan y Bwrdd Ymgysylltu â Dinasyddion a’r Trydydd Sector dros 45 o aelodau!
Mae Alan a James yn ddau gynrychiolydd dinasyddion sydd wedi bod ar Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru ers amser hir. Mae eu profiad a’u dealltwriaeth


Cynrychiolydd Dinasyddion Dementia
Beth fyddech chi’n ei wneud fel cynrychiolydd o’r trydydd sector? Fel aelod o drydydd sector y bwrdd, byddech yn helpu i sicrhau bod y gwaith
Rhannu Gwybodaeth
Ymuno â Chyfarfod Galw Heibio Cyfathrebu ac Ymgysylltu Gorllewin Cymru
Ydych chi’n gweithio ar sut mae eich sefydliad neu eich grŵp yn rhannu gwybodaeth ac yn cysylltu ag eraill? Rydym wedi datblygu cyfarfod galw heibio misol lle rydym yn rhannu gwybodaeth am ddigwyddiadau, unrhyw waith ymgysylltu parhaus ac ymchwil flaenorol.
Bob mis, rydym yn cynnal cyfarfod byr ar-lein ar Microsoft Teams, sy’n para hyd at un awr. Dyma le i ni rannu gwybodaeth (bob amser o fewn rheolau’r GDPR) am ddigwyddiadau ac ymgyrchoedd cyfathrebu sydd ar y gweill yng Ngorllewin Cymru. Trwy rannu, rydym yn osgoi ymdrechion sy’n gorgyffwrdd ac yn gweithio tuag at gyfathrebu mwy effeithlon. Mae hyn yn ein helpu ni i gyd i gyrraedd mwy o bobl a chael mwy o effaith ar iechyd a llesiant ein cymuned.
Bydd dogfen excel wedi’i diweddaru yn cael ei rhannu ar ôl pob cyfarfod a fydd yn cynnwys gwybodaeth gyswllt, digwyddiadau ac ymgyrchoedd cyfathrebu.
Yr un eitemau sydd ar agenda’r cyfarfod bob tro, sy’n cynnwys:
- Cyflwyniadau (yn y ‘chat bar’, gan gynnwys eich enw a disgrifiad o’ch rôl)
- Unrhyw waith ymgysylltu parhaus, ei bwrpas a’r canlyniadau a fwriedir (e.e. arolygon, ymgyngoriadau, gweithdai neu ymgyrchoedd marchnata ledled Gorllewin Cymru – lle i drafod rhannu adnoddau a nodi cydweithio perthnasol.)
- Unrhyw ddigwyddiadau sy’n mynd rhagddynt ar draws y rhanbarth (e.e. cynulleidfa darged, pwrpas, pwy sy’n cefnogi/mynychu)
- Unrhyw waith ymchwil sydd ei angen (e.e. lle i rannu gwaith ymchwil, ymgysylltu, ymgynghori ac ati a gynhaliwyd yn flaenorol (yn dilyn GDPR))
- Unrhyw Fater Arall
Mae’r cyfarfod hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n ymdrin â chyfathrebu ac ymgysylltu ar ran eu sefydliad neu grŵp cymorth. Mae croeso i chi ymuno â’r cyfarfodydd mor aml ag y dymunwch, neu gael eich ychwanegu at ein rhestr ohebu i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Cysylltwch â ni i gymryd rhan.
Dod â phrosiectau i chi
Ymuno â'r Grwpiau Cymorth a Rhwydwaith y Trydydd Sector
Ydych chi’n grŵp cymorth cymunedol lleol neu’n sefydliad trydydd sector yng Ngorllewin Cymru?
Rydym eisiau gweithio gyda chi ar brosiectau sy’n berthnasol i chi.
Rydym yn gwerthfawrogi eich arbenigedd ac rydym am gydweithio ar brosiectau sy’n bwysig i’ch grŵp cymorth neu sefydliad. Er mwyn gwneud y defnydd gorau o amser pawb, byddwn ond yn cysylltu â chi pan fydd prosiectau’n ymwneud yn uniongyrchol â’r maes rydych yn canolbwyntio arno, gan gynnig cyfleoedd ar gyfer ymgynghori neu ddatblygu ar y cyd. Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn sicrhau bod ein mentrau yn gwasanaethu cymuned Gorllewin Cymru yn effeithiol.
Gallwch ddewis sut yr hoffech gymryd rhan. Gallwn hwyluso’r drafodaeth yn eich sefydliad neu grŵp, neu gallwn ddarparu’r deunyddiau i chi gynnal yr ymgynghoriad neu’r prosiect ar adeg sy’n gweithio orau i chi.
Y sefydliadau a'r grwpiau cymorth sydd eisoes yn ein rhwydwaith
Get involved today
Cysylltu â Ni
Mae eich llais yn bwysig wrth lunio a gwella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Dewch i wneud gwahaniaeth trwy rannu eich barn a phrofiadau i lunio a gwella iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngorllewin Cymru. Llenwch ein ffurflen gyswllt syml i gael cyfrannu at ysgogi newid.
Sylwer: Nid yw Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru yn darparu gwasanaethau cyhoeddus yn uniongyrchol. Fodd bynnag, gallwch ddod o hyd i ddolenni defnyddiol ar ein tudalen ‘cysylltu â ni’ i gysylltu â phartneriaid/darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngorllewin Cymru.
- Mae Eich Barn yn Bwysig
Ymunwch â ni nawr, rhannwch eich llais, a helpwch ni i greu newid ystyrlon!