WWRPB ⎸ Dogfennau
Mae gofalwyr di-dâl yng Ngorllewin Cymru yn dal i wneud cyfraniad hanfodol, nid yn unig i fywydau perthnasau, ffrindiau a chymdogion ond i’r gymuned leol hefyd. Mae gofalu yn rhan mor bwysig o fywyd a bydd llawer ohonon ni’n gofalu am rywun rywbryd yn ein bywydau. Mae’n bosib daw’r rôl yn annisgwyl neu efallai fydd yn datblygu dros amser, gan fod taith pob gofalwr yn unigryw.
Lluniwyd y cynllun strategol rhanbarthol newydd hwn drwy ddefnyddio mewnbwn gofalwyr di-dâl a’r sefydliadau sy’n eu cefnogi. Nod y cynllun yw sicrhau bod gofalwyr di-dâl yng Ngorllewin Cymru nid yn unig yn cael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi, ond hefyd yn cael y lefel a’r math cywir o gymorth ar yr adeg iawn. Mae’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi ymrwymo i’n hymdrech barhaus, ar y cyd i wella iechyd a llesiant gofalwyr di-dâl ledled Gorllewin Cymru.