WWRPB ⎸ News and Events
Dros y 2 flynedd ddiwethaf rydym wedi bod yn ymgysylltu â phobl niwrowahanol a phobl ag anableddu dysgu fel rhan o drafodaethau ynghylch y Strategaeth Anabledd Dysgu. Ar hyn o bryd, mae tair strategaeth Anabledd Dysgu (AD) debyg iawn yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Bydd y strategaeth hon yn un strategaeth ranbarthol unigol sy’n cwmpasu pob ardal. Mae’r strategaeth wedi cael ei hadolygu gan y Bartneriaeth Gwella Bywydau Ranbarthol (RILP), sydd yn grŵp tair sir yn cynnwys pobl o’r canlynol:
- Cyngor Sir Caerfyrddin
- Cyngor Sir Ceredigion
- Cyngor Sir Penfro
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Tîm Perffaith
- Pobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin
- Pobl yn Gyntaf Sir Benfro
- Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru
- Amrywiol brosiectau a ariennir gan y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
Eich Barn
Mae ystyried eich barn yn rhan hanfodol o broses gwneud penderfyniadau’r Cyngor.Os hoffech chi gopi papur, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid ar 01437 764551 neu anfonwch e-bost at getinvolved@pembrokeshire.gov.ukfel y gallwn ni wneud trefniadau i’w anfon atoch.
Os gwelwch chi’n dda, cwblhewch yr arolwg erbyn ddydd Sul, 12fed Ebrill 2026
Bydd eich ymateb yn cyfrannu at y Strategaeth Anabledd Dysgu Gorllewin Cymru newydd 2026–2031
Having the Workforce we Need.