Search

WWRPB News and Events

Dros y 2 flynedd ddiwethaf mae Cynghorau Sir Penfro, Ceredigion a Chaerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi bod yn ymgysylltu â phobl niwrowahanol a phobl ag anableddau dysgu fel rhan o drafodaethau ynghylch y Strategaeth Anabledd Dysgu. Ar hyn o bryd, mae tair strategaeth Anabledd Dysgu (AD) debyg iawn yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Bydd y strategaeth hon yn un strategaeth ranbarthol unigol sy’n cwmpasu pob ardal. Mae’r strategaeth wedi cael ei hadolygu gan y Bartneriaeth Gwella Bywydau Ranbarthol (RILP), sydd yn grŵp tair sir yn cynnwys pobl o’r canlynol:

  • Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Cyngor Sir Ceredigion
  • Cyngor Sir Penfro
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Tîm Perffaith
  • Pobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin
  • Pobl yn Gyntaf Sir Benfro
  • Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru
  • Amrywiol brosiectau a ariennir gan y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
 

Caiff y strategaeth ei dylanwadu gan Asesiad Anghenion y Boblogaeth a gyhoeddwyd gan Fwrdd Partneriaeth Gorllewin Cymru. Hoffem glywed eich barn am yr argymhellion sydd wedi dod i’r golwg o’r ymgysylltiad.

 

Argymhellion Strategaeth Anabledd Dysgu Gorllewin Cymru

Darllenwch y dogfennau cyn i chi wneud yr arolwg ar-lein. Byddant yn eich helpu i ateb y cwestiynau.

Yr Iaith Gymraeg a’r Strategaeth

Eich Barn

Mae ystyried eich barn yn rhan hanfodol o broses gwneud penderfyniadau.

 

Cwblhewch yr arolwg ar-lein (yn agor mewn tab newydd) erbyn 5 Gorffennaf 2026.

Os hoffech chi gopi papur, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid ar 01437 764551 neu anfonwch e-bost at getinvolved@pembrokeshire.gov.uk fel y gallwn ni wneud trefniadau i’w anfon atoch. Fel arall, gallwch argraffu, cwblhau a dychwelyd y ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad.

Os gwelwch chi’n dda, cwblhewch yr arolwg erbyn ddydd Sul, 5ed Gorffennaf 2026

Bydd eich ymateb yn cyfrannu at y Strategaeth Anabledd Dysgu Gorllewin Cymru newydd 2026–2031.

This item is also available in English / Mae’r eitem hon ar gael yn Saesneg hefyd.

Hysbysiad Preifatrwydd – Ffurflenni Microsoft  (yn agor mewn tab newydd)

Having the Workforce we Need.