WWRPB ⎸ Bwrdd Ymgysylltu â Dinasyddion a'r Trydydd Sector
Mae gan y Bwrdd Ymgysylltu â Dinasyddion a'r Trydydd Sector dros 45 o aelodau!
Rydym bellach wedi cynnal 8 cyfarfod o’r Bwrdd Ymgysylltu â Dinasyddion a’r Trydydd Sector!
Mae’r cyfarfodydd hyn yn cael eu cynnal bob yn ail fis, ac wedi ymgysylltu â mwy na 45 o aelodau a sefydliadau cymunedol, ac maent yn darparu llwyfan i drafod a llunio dyfodol gwasanaethau lleol. Rydym yn cyflwyno strategaethau, prosiectau a gwasanaethau, ac mae’r grŵp yn darparu mewnbwn i ysgogi gwelliannau ystyrlon.
Ar 19 Chwefror, cyfarfu’r bwrdd ym Mharc Dewi Sant i ddewis enillydd Gwobr Dewis y Dinasyddion a’r Trydydd Sector yng Ngwobrau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gorllewin Cymru. Ar ôl llawer o drafod, roedd yn anodd iawn dewis enillydd o blith rhestr fer mor anhygoel. Fodd bynnag, rydym yn edrych ymlaen at ddatgelu’r canlyniadau ar 11 Mawrth yn y Gwobrau!
Cafodd y bwrdd hefyd ei friffio gan Rebekah ynghylch yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth a’r Porth Data. Mae’r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth yn darparu dadansoddiad strategol lefel uchel o ddata i lywio anghenion gofal a chymorth dinasyddion ledled Gorllewin Cymru. Mae Tîm Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru yn diweddaru’r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth bob 5 mlynedd, ond yn ei adolygu bob 2.5 mlynedd. Gyda chymorth y Bwrdd Ymgysylltu â Dinasyddion a’r Trydydd Sector a’r ffrydiau gwaith o fewn Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru, byddwn yn diweddaru’r asesiad yn ystod y 3 mis nesaf.
Gellir gweld Asesiad o Anghenion y Boblogaeth 2022 yma: Asesiad Poblogaeth 2022 – Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru
Mae’r porth data, sy’n cadw data am y boblogaeth, ar gael yma a gallwch ddefnyddio’r data hwn hefyd: Hafan – Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru
Rydym yn croesawu aelodau newydd i’r bwrdd; mae ein cyfarfod nesaf ddydd Mawrth 22 Ebrill 2025 a byddem wrth ein bodd yn eich gweld.
Byddwn yn casglu eich barn am y Strategaeth Eiriolaeth a’r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth ar gyfer Gorllewin Cymru yn y cyfarfod hwn. Y tu hwnt i’r cyfarfod hwn, fe welwch nifer o brosiectau a chyfleoedd y gallwch gymryd rhan ynddynt, fel mynd i ddigwyddiadau Llywodraeth Cymru a chyfrannu’n sylweddol at brosiectau sy’n cyd-fynd â’ch diddordebau.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan? Anfonwch e-bost atom ar wwrpb@sirgar.gov.uk