Search

WWRPB News and Events

Cyllid Cyfalaf Mân Brosiectau 2026–2027 | Gwahoddir Ceisiadau Nawr – ar agor o 20 Chwefror 2026 dyddiad cau 06 Ebrill 2026

 

Ynglŷn â’r Gronfa Tai â Gofal

Mae’r Gronfa Tai â Gofal yn rhaglen gyfalaf gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo pobl ag anghenion gofal a chymorth i fyw’n annibynnol yn y gymuned. Mae’n darparu lleoliadau gofal canolraddol yn y gymuned fel y gall pobl sydd angen gofal, cymorth ac adsefydlu ddychwelyd i fyw’n annibynnol neu barhau i gynnal eu hannibyniaeth. Mae Amcan 3 yn darparu cyllid cyfalaf ar raddfa fach ar gyfer prosiectau lleol sy’n cael effaith fawr.  Gall prosiectau bach gael effaith sylweddol sydd y tu hwnt o fuddiol o gymharu â’u cost. Caiff cyllid ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau Amcan 3 fel y gwêl y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn ddoeth, cyn belled â bod modd dangos bod prosiectau a ariennir yn cyfrannu’n uniongyrchol at gyflawni nodau ac amcanion y Gronfa Tai â Gofal.

Dangosyddion penodol y Gronfa Tai â Gofal 

  • nifer y bobl hŷn a phobl ag anableddau sy’n gallu byw’n annibynnol am gyfnod hirach
  • nifer y plant ag anghenion uwch sy’n cael eu lletya’n agosach at adref
  • nifer y gofalwyr sy’n gallu cael mynediad i ofal seibiant drostynt eu hunain neu’r bobl y maent yn gofalu amdanynt
  • nifer y bobl sydd angen gofal ailalluogi, adsefydlu neu sy’n dysgu byw’n annibynnol sy’n gallu cael llety addas yn y gymuned

Ar gyfer beth y gellir defnyddio Cyllid Amcan 3?

  • Atgyweiriadau, adnewyddu neu welliannau i dai â gofal neu leoliadau gofal canolraddol
  • Offer neu addasiadau i gartrefi presennol nad ydynt yn cael eu cefnogi gan grantiau eraill Llywodraeth Cymru
  • Prosiectau cyfalaf cymunedol neu drydydd sector ar raddfa fach
  • Cymhorthion digidol, monitro a thechnolegau cynorthwyol

Beth nad yw’n gymwys

  • Prynu cerbydau
  • Offer a seilwaith TG
  • Costau refeniw parhaus
  • Defnyddio’r cronfeydd i ddisodli neu weinyddu grant arall gan drydydd parti

 

Pwy all wneud cais?

Sefydliadau sy’n gweithredu yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, gan gynnwys Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a sefydliadau’r Trydydd Sector.

Sut i Wneud Cais

I gael pecyn cais a chanllawiau llawn, cysylltwch â GCCyfalafSRP@sirgar.gov.uk

Mae’r blwch post hwn yn cael ei fonitro’n rheolaidd a byddwn yn edrych ar eich cais o fewn 5 diwrnod gwaith. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd 06 Ebrill 2026.  Byddwch yn cael eich hysbysu am unrhyw ddyfarniad ar ôl i Banel Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru gwrdd ym mis Mai 2026 a chyn gynted â phosibl.

 

Mae gan dîm Swyddfa Rheoli Rhaglenni Cyfalaf Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru yr hawl i ofyn am wybodaeth ychwanegol i gefnogi’r broses ymgeisio neu hawlio.

 

Bydd rhestr aros yn cael ei chreu o geisiadau cymwys ond aflwyddiannus pe na bai’r arian yn cael ei ymrwymo’n llawn. Os bydd ceisiadau’n cael eu tynnu’n ôl, mae’n bosibl y bydd y grant yn ailagor ar gyfer ceisiadau ym mis Hydref 2027.

 

 

Having the Workforce we Need.