WWRPB ⎸ Ysgogi Newid
Yr Hyn Yr Ydym Yn Ei Wneud
Mae Tîm Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru (WWRPBT) yn cefnogi’r WWRPB, gan ddarparu cefnogaeth strategol ar gyfer sicrhau newid, cydgysylltu datblygiad y rhaglen ranbarthol, cysylltu â Llywodraeth Cymru a phartneriaid rhanbarthol ac ymgysylltu â phobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae’r tîm yn monitro, yn adrodd ac yn gwerthuso canlyniadau’r rhaglen, gan rannu arfer gorau a gwersi a ddysgwyd gyda phartneriaid, Llywodraeth Cymru a Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol Gorllewin Cymru.
Ysgogi Trawsnewid Drwy
#1 Arloesi
I gadw lan â’r datblygiadau meddygol a thechnolegol, lleihau’r galw ar wasanaethau ac ymateb i anghenion y boblogaeth ranbarthol, arloesi yw’r allwedd i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Yng ngolwg Llywodraeth Cymru, mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn fecanwaith effeithiol i oruchwylio’r defnydd o gyllid rhanbarthol sy’n sbarduno arloesi a thrawsnewid gwasanaethau.
Gan weithio gyda phartneriaid o sefydliadau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, mae tîm y bwrdd partneriaeth yn hwyluso’r prosesau a’r perthnasoedd sydd eu hangen i ddatblygu arfer arloesol, i gydnabod, gwerthuso a hyrwyddo llwyddiant ac mewn partneriaeth â’r Hwb Cydlynu Arloesi Rhanbarthol, i rannu’r hyn a ddysgwyd o arfer effeithiol a’i gyflwyno ar draws y rhanbarth.
Gwasanaethau Gwell Drwy
#2 Integreiddio
Yn aml, mae gan bobl sy’n cael cymorth iechyd a gofal cymdeithasol anghenion lluosog, sy’n golygu bod angen eu hatgyfeirio at ystod o wasanaethau. Mae oedi o ran cael mynediad at wasanaethau ar yr adeg iawn oherwydd bod atgyfeiriadau lluosog yn cymryd llawer o amser ac yn rhwystredig i’r rhai y mae’r oedi’n effeithio arnynt, defnydd aneffeithlon o adnoddau ar gyfer y rhai sy’n darparu gwasanaethau a gall gael effaith andwyol wrth i amodau waethygu, tra bo angen a chostau’n cynyddu.
Un o atebion Llywodraeth Cymru i wella integreiddio gwasanaethau yw gweithredu Modelau Gofal Cenedlaethol, sydd wedi’u cynllunio i sicrhau bod gwasanaethau’n seiliedig ar anghenion person. Mae tîm y bwrdd partneriaeth yn hwyluso datblygiad modelau gofal rhanbarthol, byrddau a grwpiau ar draws y rhanbarth sy’n cefnogi datblygiad gwasanaethau integredig i Blant a Phobl Ifanc; Dementia; Anableddau Dysgu; Gwasanaethau Cymunedol Ataliol; Gofalwyr Di-dâl; Gofal Brys ac Argyfwng; Datblygu’r Gweithlu a Buddsoddiad Cyfalaf i gefnogi datblygiad Hybiau Cymunedol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig.
Llywio Gofal Iechyd Drwy
#3 Cynnwys
I sicrhau bod gwasanaethau’n ymateb i’r hyn sy’n bwysig i bobl, mae’n hanfodol eu bod yn rhan o’r gwaith o’u datblygu neu ail-ddylunio. Fel rhanbarth, mae prosesau i ymgysylltu a chyfathrebu’n effeithiol â phobl yn cael eu hadolygu’n gyson mewn ymateb i amgylchiadau. Yn ystod y pandemig, roedd llawer o weithgareddau ymgysylltu a chyfathrebu yn dibynnu bron yn gyfan gwbl ar dechnoleg a gwasanaethau rhithwir.
Mae tîm y bwrdd partneriaeth yn datblygu strategaeth ymgysylltu a chyfathrebu ddiwygiedig i’w rhoi ar waith yn fuan. Bydd hyn yn cynnwys: mwy o ymgysylltu wyneb yn wyneb â phobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i gasglu a rhannu eu barn a’u straeon trwy amrywiaeth o gyfryngau, gan gynnwys dyddiaduron fideo a chyfryngau cymdeithasol; calendr digwyddiadau wedi’i adnewyddu i dynnu sylw pobl at ddigwyddiadau allweddol neu gael mynediad at wybodaeth a dysgu a phrosesau wedi’u diweddaru ar gyfer recriwtio pobl sydd â phrofiad byw o ddefnyddio gwasanaethau eu hunain neu ofalu am y rhai sy’n gwneud hynny, i fod yn gynrychiolwyr ar Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru.