WWRPB ⎸ Newyddion a digwyddiadau
Arolwg Strategaeth Gofalwyr
Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru wedi lansio arolwg newydd i gasglu eich barn ynghylch cymorth i ofalwyr yng ngorllewin Cymru.
Mae’r arolwg wedi’i anelu at y rhai sy’n darparu gofal i berson, y rhai sydd wedi darparu gofal yn y gorffennol, neu sefydliadau sy’n cefnogi gofalwyr.
Bydd eich barn am y gwasanaethau yng ngorllewin Cymru yn llywio Strategaeth Gofalwyr 2025 – 2030, sy’n rhoi arweiniad ac yn blaenoriaethu’r gwaith y mae ei angen ledled gorllewin Cymru.
Bydd yr arolwg yn agor ar gyfer ymatebion o ddydd Llun, 13 Mai ar 17:30 a bydd yn cau ddydd Llun, 24 Mehefin 2024 ar 17:30.
Mae’r arolwg mae’n gwbl ddienw.
Rhannwch eich sylwadau a chwblhewch yr arolwg drwy glicio yma.