Search

WWRPB News and Events

Dros y 2 flynedd ddiwethaf rydym wedi bod yn ymgysylltu â phobl niwrowahanol a phobl ag anableddu dysgu fel rhan o drafodaethau ynghylch y Strategaeth Anabledd Dysgu. Ar hyn o bryd, mae tair strategaeth Anabledd Dysgu (AD) debyg iawn yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Bydd y strategaeth hon yn un strategaeth ranbarthol unigol sy’n cwmpasu pob ardal. Mae’r strategaeth wedi cael ei hadolygu gan y Bartneriaeth Gwella Bywydau Ranbarthol (RILP), sydd yn grŵp tair sir yn cynnwys pobl o’r canlynol:

  • Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Cyngor Sir Ceredigion
  • Cyngor Sir Penfro
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Tîm Perffaith
  • Pobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin
  • Pobl yn Gyntaf Sir Benfro
  • Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru
  • Amrywiol brosiectau a ariennir gan y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol

Eich Barn
Mae ystyried eich barn yn rhan hanfodol o broses gwneud penderfyniadau’r Cyngor.Os hoffech chi gopi papur, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid ar 01437 764551 neu anfonwch e-bost at getinvolved@pembrokeshire.gov.ukfel y gallwn ni wneud trefniadau i’w anfon atoch.

Os gwelwch chi’n dda, cwblhewch yr arolwg erbyn ddydd Sul, 12fed Ebrill 2026

Bydd eich ymateb yn cyfrannu at y Strategaeth Anabledd Dysgu Gorllewin Cymru newydd 2026–2031

Having the Workforce we Need.